Highland cattle

Menu


Social Media

follow EFNCP on Facebook
HNV Showcases

Mwy am lawr gwlad: enghraifft o ardaloedd y ‘llefydd bach’ yng Ngorllewin Cymru

hedgesUn o brif nodweddion llawr gwlad Cymru yw cloddiau. Mewn ardaloedd sychach, planwyd nhw ar y llawr ond fan lle mae’r tir yn wlyb, mae’r berth yn sefyll ar glawdd pridd. Mae’r ddraenen wen (Crategus monogyna); y ddraenen ddu (Prunus spinosa); y gollen (Corylus avellana); helyg (Salix spp.) a’r onnen (Fraxinus excelsior) oll yn gyffredin. Er nad yw’r ffawydden (Fagus sylvatica) yn gynhenid i’r ardal, mae hi’n wedi’i phlannu mewn aml i fan agored. Mae cloddiau yn garte i nifer of adar ymyl y goedwig - mae’r boda cyffredin (Buteo buteo) yn gyffredin iawn. Yn enwedig ar hyd ymylon heolydd, mae cloddiau yn noddfa i flodau fu gynt yn y caeau eu hunain. Mae plygu perthi yn grefft fyw, sy’n atgyfnerthu’r clawdd ac yn ei gadw’n rhag bylchau.
Species-rich hayfieldsMae caeau gwair blodeuog yn brin iawn erbyn hyn - aeth yr hen gaeau un ai’n borfa neu o dan silwair dwys. Mae silwair nid yn unig yn arwydd o ddwysáu ond yn ffordd resymol i geisio rheoli ansicrwydd y cynhaea. Mae’r rhestr o flodau sy’n nodweddu hen caeau gwair yn cynnwys pengaled Centaurea nigra); llygad llo mawr (Leucanthemum vulgare) a thegeiriannau fel greater and lesser butterfly orchid (Platanthera chlorantha, P. bifolia). Ysywaeth, ‘dyw’r math o gaeau gwair a welir yng Nghymru ddim ar Anecs 1 y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.
wet grasslandsY llefydd diwetha i gael eu gwella, a thrwy hynny y cynefinoedd lled-naturiol mwya cyffredin yw rhosdir a gweundir. Gyda’u blodau nodweddiadol - pys y ceirw mwya (Lotus pedunculatus); ragged robin (Lychnis flos-cuculi); sneezewort (Achillea ptarmica) a devil’s bit scabious (Succissa pratensis), mae rhai o’r rhosydd yn gartre i frith y gors (Euphydryas aurinia). Mae pori ysgafn gwartheg yn lles i’r fath gynefinoedd, yn cynnal strwythyr addas yn y borfa.
cattle‘Slawer dydd ‘roedd cadw buwch yn ran ganolog o economi “dala llygoden a’i byta’i” llefydd bach y wlad. Yn wir, mesurid maint ffermydd wrth y nifer o dda gallent eu cynnal - ‘lle un buwch’, ac yn y blaen. Erbyn heddiw mae da sugno ac eidionau (sy’n aml yn deillio o’r fuches laeth) yn cyflawni rôl yr hen fuwch odro - creu strwythyr agored yn y borfa a rhoi pwrpas i ladd gwair. Heb dda’n pori, anodd cadw mosaïg o gynefinoedd a sicrhau parhad porfeydd blodeuog yn enwedig. Yn anffodus, anodd iawn dod â dau ben llinyn ynghyd - problem i’r ffermwr, ond problem i bolisi’r amgylchedd yn ogystal.
sheep monocultureUn tuedd na dderbyniodd fawr o groeso yw’r un tua chadw dim ond defaid ar ffermydd. Mae’r caeau’n mynd fel llain bowls o unffurf ac mae amrywiaeth y planhigion yn disgyn. Ond yn ddiweddar sylweddolwyd nad diwerth pob cae o’r fath a ‘wellwyd drwy bori’ (math o borfa a ddisgrifir fel MG6 yn Nosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol y DU) - maent yn dra phwysig i rai mathau o ffwng, fel y cwyrbennau ?? (Hygrocybe spp.). Mae’r darganfyddiad yn codi llawer cwestiwn anodd - os nad diwerth sut borfa, a ddylid caniatau eu haredig neu hau gwrtaith artiffisial arnynt, er enhgraifft? A ddylai polisi eu trin fel caeau wedi’u gwella neu fel caeau lled-naturiol? Heb os, mae iddynt le pwysig yng nhefn gwlad, ond wedi dweud hynny, mae mewn porfa MG5 (fu yno gynt yn aml) gyfoeth o ffwng a blodau.
Mae gorllewin Cymru’n derbyn arian o’r Gronfa Cydgyfeirio - arian sy’n targedu rhai o ardaloedd tlota Ewrop. Mae incwmau yn isel at ei gilydd ac yn yr 1970au roedd ffermydd bach yn rhad i’w prynu. Llifodd hipis ac eraill oedd yn edrych am fywyd newydd yng nghefn gwlad i’r ardal - mae sawl llama a gafr i’w gweld yng nghefn gwlad! Ni ellir dweud bod patrwm sefydlog i ffermydd y newydd-ddyfodiaid - mae rhai’n ffermio’n ddwys ac thir eraill wedi mynd yn wyllt. Mae incwmau’n parhau’n isel on erbyn ond mae prisiau ffermydd bach wedi codi’n eithriadol. Mae fforriadwyedd tai cyffredin gyda’r isa ym Mhrydain gyfan, ond mae hectar o dir yn codi’r pris 50% neu fwy. Hyd yn oed ar gyfartaledd mae tir gwael yn costu dros €10000/ha. Fel cymhariaeth, tua €200/ha yw gross margin cadw da sugno, tra dim ond €35/ha yw taliad gorau Tir Mynydd. Nid oes unrhyw orfodaeth gyfreithiol na threthol gyffredinol ar berchnogion i reoli’u tir heblaw o dan daliadau’r PAC.
red kiteEr mai ar y mynydd y nythai’r boblogaeth fach o farcutiaid coch pan oeddent ar diflannu o’r wlad (gweler yr Elenydd), ‘roedd llawr gwlad yn bwysig iawn iddynt yn ystod y gaea. Caent eu bwyd ar y tip sbwriel lleol (a gaeodd wedyn) a thu faes i’r amryw ladd-dai bach. Er bod rhai o’r rhain ar agor o hyd, ni ellir yn gyfreithiol daflu’u gwastraff ar domen mwyach. Pan gaeodd y tip, dechreuodd perchen y tir fwydo’r barcutiaid ac mae grwp o bobol lleol yn parhau’r traddodiad - cadwraeth gwirioneddol gynhenid, heb fydwraig o’r tu faes, yn dangos balchder yr ardal o’u gofal o’r aderyn.

 
Logo Printversion EFNCP
European Forum on Nature Conservation and Pastoralism
Online: http://www.efncp.org/hnv-showcases/south-wales/welsh/lowlands/small-farm-landscape/
Date: 2024/04/20
© 2024 EFNCP – All rights reserved.