Highland cattle

Menu


Social Media

follow EFNCP on Facebook
HNV Showcases

Mwy am y maes glo mynyddig

anthracite mineMae’n debyg i’r pwll glo caled cynta yn yr ardal agor yn 1757. Am ddwy ganrif a hanner glo oedd brenin yr ardal, hyd cau pwll y Betws yn 2003. Er y llygredd o’r pyllau a’r cyfeiriau o dir o dan eu tomenni, ‘roedd atynfa’r gweithfeydd gymaint fel nag oedd fawr o reswm i ddwyshau defnydd tir - parhaodd amaethyddiaeth i ddilyn lwybr digon traddodiadol drws nesa i fwrlwm diwydiant.
coalfield’s upland grazingsGyda sut gyfoeth dan ddaear, pam gwastraffu adnoddau yn cau tir mynydd? Am y rheswm hyn, parhaodd y mynydd nid yn unig heb ei wella, ond yn aml fel tir comin. Ar y mynydd ceir mosaïg o rostiroedd sychion Ewropeaidd a gweundir glannau’r Iwerydd (cynefinoedd 4010 a 4030 yn Anecs I), gorgorsydd (7130), a phorfeydd asid sych a gwlyb. Er mai’r ddafad sy fwya cyffredin, mae da’n pori ar beth mynydd o hyd. Eidionau ac wyn stôr yw’r prif gynnyrch (er bod peth tewhau yn digwydd ar y caeau brasa).
Cirsuim dissectum, Vicia orobus, Trollius europaeusAr briddoedd gwlyb y Mesurau Glo mae gweundir gwellt y bwla (cynefin 6410 ar Anecs I) a phorfeydd tebyg yn gyffredin. Maent yn gartre i rywogaethau fel ysgallen XX Cirsuim dissectum a’r carwe troellog Carum verticillatum. Mae globeflower Trollius europaeus a wood bitter-vetch Vicia orobus yn fwy anghyffredin.
Illegal dumpingMae byw mor agos at boblogaeth fawr sy’n diodde diweithdra a chynni economaidd a chymdeithasol yn golygu problem unigryw i ffermwyr y maes glo. Mae dympio anghyfreithlon a llosgi ceir wedi’u dwyn yn bethau cyffredin. Mae problemau eraill yn deillio o’r camsyniad mai tir sy’n berchen i neu at ddefnydd pawb yw tir comin. Er bod sut dir yn ddelfrydol ar gyfer hamddena, mae defnydd anghyfrifol o feicau pedair olwyn a cherdded cwn heb dennyn, er enghraifft, yn achosi cryn ben tost i ffermwyr.
opencast mining, Euphydryas auriniaBygythiad newydd oddi ar y 1970au yw’r gweithfeydd glo brîg. Maent yn cynnig cryn elw mewn amser byr: yng ngwaith y Garnant codwyd 440,000 tunell o lo o safle 115 ha mewn dim ond pedair blynedd. Er mai ychydig o swyddi a grëir, a rheiny yn rhai dros dro, golyga’r diweithdra lleol mai braidd yn ddibwys yw gwrthwynebiad ar sail yr amgylchedd - caniatawyd difetha safle ddynodedig yn achos gwaith y Selar. Dros y cyfnod mae cyfeririau o weunydd gwerthfawr wedi’u difa, ynghyd â nythfeydd brith y gors Euphydryas aurinia - rhywogaeth ar Anecs II.

 
Logo Printversion EFNCP
European Forum on Nature Conservation and Pastoralism
Online: http://www.efncp.org/hnv-showcases/south-wales/welsh/coalfield/coalfield-landscape/
Date: 2024/03/28
© 2024 EFNCP – All rights reserved.