Highland cattle

Menu


Social Media

follow EFNCP on Facebook
HNV Showcases

Mwy am rostir maes glo Sir Gâr

Coal miningMae hanes am gloddio am lo a mwyn haearn ar y Mynydd Mawr mor bell yn ôl â 1669. Erbyn cau’r mynydd yn 1813, ‘roedd y fro wedi bod yn ardal ddiwydiannol am ganrif a hanner. ‘Does synod ‘fallai mai i “lotau” - llefydd bach - y rhannwyd y tir yn hytrach nag yn ffermydd mawr modern, sy’n awgrymu mai casglu rhent dwsinau o goliers tyddynol oedd nôd y tirfeddianwyr. Y math hyn o ddal tir sy’n gyfrifol am barhad porfa lled-naturiol ac am lawer o’r ansicrwydd presennol am ddyfodol yr ardal fel ei gilydd.
Succissa pratensis and Euphydryas auriniaGyda chymaint o rosdir â devil’s bit scabious Succissa pratensis, gall yr ardal gynnal rhwydwaith o boblogaethau (metapoblogaeth) o frith y gors Euphydryas aurinia. Dynodwyd rhai o’r caeau ar gefn yr iar fach yr haf ac mae cymdeithas Gwarchod Glöynnod Byw yn rhedeg prosiect i hybu dulliau addas o drin y tir.
horses‘Fallai eu bod yn atgof o’r cwlwm rhwng y coliers gynt a’u ponis; ta beth, mae cadw ceffylau yn beth cyffredin yn yr ardal. Gan nad ystyriai’r wladwriaeth hyn yn ‘Amaeth’, anaml mae perchnogion sut dir yn rhan o’r sustem gymorthdaliadau, a mae eu hysgogiad yn aml yn dra gwahanol i ‘ffermwyr iawn’. Ran fynycha, mae taliadau confensiynol yn rhy isel i’w denu i newid eu harfer, a ta waeth am hynny, anodd iawn newid sustem rhywun sy’n berchen ond un cae.
Yn y gorffennol roedd llefydd bach y Mynydd Mawr yn cynnig bonws i’r colier yn y dyddiau da a’r gallu i “ddala llygoden a’i byta’i” mewn amser o gynni. Erbyn heddiw, ychydig o’r perchnogion tir sy’n ffermwyr. Mae rhai o’r bobl sy’ heb geffylau yn rhoi caniatâd i’r rhai sy’n berchen creaduriaid i bori’u caeau, ond byr-dymor ac ar lafar yw’r rhan fwya o gytundebau o’r fath. Wrth gwrs, prin yw’r elw o bori tir heb gymorthdal, ac anodd cael cymorthdal heb ddangosiaeth ar bapur. Yn achos cymorthdal amaeth-amgylcheddol, rhaid i’r cytundeb bara am o leia pum mlynedd.
industrial developmentBach yw’r elw i’r ffermwr ar dir gwlyb, hyd yn oed o dderbyn cymorthdaliadau, ac mae’u hawlio yn golygu tomen o waith papur. Ar y llaw arall, mae tir ar gyfer datblygiadau diwydiannol neu godi tai yn uchel ei bris. Fel gweddill y maes glo, mae’r Mynydd Mawr yn rhan o’r ardal ‘Gydgyfeirio’, hynny yw un sy’n diodde’n economaidd ac yn gallu derbyn cymorthdal o Gronfeydd Strwythurol yr UE. Mae cryn bwysau or herwydd i ganiatàu datblygiadau o’r fath. Ar yr un pryd mae talaidau amaeth-amgylcheddol yn adlewyrchu’r incwm a gollwyd i’r ffermwr trwy gyflawni’i gytundeb. Hyd yma, incwm amethyddol yn unig a ystyriwyd - fformiwla ddi-ystyr ac afreal i berchen tir ar y Mynydd Mawr.

 
Logo Printversion EFNCP
European Forum on Nature Conservation and Pastoralism
Online: http://www.efncp.org/hnv-showcases/south-wales/welsh/coalfield/wet-grasslands/
Date: 2024/04/19
© 2024 EFNCP – All rights reserved.