Highland cattle

Menu


Social Media

follow EFNCP on Facebook
HNV Showcases

Yr Elenydd

Yr Elenydd

Yr Elenydd yw’r enw a roddir heddiw i asgwrn cefn mynyddig De Cymru. Er bod y mynydd 500-600 m hyn o bobtu 60 km o hyd a 20-30 km o led, dengys atgyfodiad yr heb enw mai ardal anghofiedig a dibris yw’r mynydd i drwch y boblogaeth. Yn ganolfur y gwahaniaeth ers canrifoedd, tyfodd y bwlch rhwng broydd Cymraeg Ceredigion a Saeson Sir Faesyfed a gogledd Brycheiniog fwy fwy yn yr 20fed ganrif gydag ymadawiad poblogaeth Gymraeg ffermydd y mynydd.

Mae da byw wedi bod yn pori’r Elenydd ers cyn hanes, a bu’r ardal yn ffynhonell eidionau ar gyfer marchnadoedd de Lloegr ers y canol oesoedd o leia. Rhoddwyd cynteddau eang i fynachlog Sistersiaidd Ystrad Fflur, a meddylir mai’r mynachod fu’n gyfrifol am sefydlu’r ddafad ar raddfa eang ar yn mynydd. Daeth diwedd ar gadw da i’r rhan fwya o’r Elenydd yn ail hanner yr 20fed ganrif, tra parhaodd nifer y defaid i gynyddu. Ni welwyd unrhyw lysysydd mawr gwyllt ar yn mynydd am ddwy ganrif neu fwy.

Oddi ar yr 1960au, prynodd y wladwriaeth a chwmnioedd preifat lu o ffermydd cyfain a’u plannu a choed gleision - sbriwsen Sitka (Picea sitchensis) ran fynycha. Boddwyd ardaloedd eraill dan gronfeydd enfawr.

Dynodwyd y rhan fwya o’r mynydd agored yn safle Natura 2000. Rhaid yn sgîl dadgysylltu feddwl am fwy nag osgoi gor-bori; rhaid wrth neges bositif i’w chynnig i ffermwyr mynydd. Pwy systemau ddylid eu hybu; faint o ddefaid neu dda sy’n addas?

More Information:


 
Logo Printversion EFNCP
European Forum on Nature Conservation and Pastoralism
Online: http://www.efncp.org/hnv-showcases/south-wales/welsh/elenydd/
Date: 2024/04/18
© 2024 EFNCP – All rights reserved.