Highland cattle

Menu


Social Media

follow EFNCP on Facebook
HNV Showcases

HNV Farmland: South Wales

by Gwyn Jones

De Cymru: gweld gwerth mewn gwaun a gwndwn?

Mae tua 1.7 miliwn o 2.1 miliwn hectar arwynebedd Cymru yn dir fferm. O’r cyfanswm hwn mae 60% dros 150 m a 27% dros 300 m o uchder. Gyda chymaint o law, o fynydd-dir ac o briddoedd heb fawr o nodd, mae pwysigrwydd y sector da byw yn llawer uwch yng Nghymru nag yn y Deyrnas Unedig at ei gilydd.

Dynodwyd 80% o’r wlad - 1.1 miliwn ha - yn Ardal Llai Ffafriol a thra bod dros 83% o’r tir amaethyddol yn borfa barhaol neu’n dir pori garw, dim ond 13% sy’n dir sofl - 5% yn dir âr a 9% yn borfa dros dro.

Er bod godro’n dal i fod yn bwysig yn yr economi wledig, da bîff a defaid sydd â’r afael dros ran fwya o’r wlad - dros 5 miliwn o famogiaid a 200,000 o dda.
Gellir rhannu De Cymru’n fras yn yr hen ddull - ‘y mynydd’ a ‘llawr gwlad’. Yn y mynydd, system o ‘ransio’ defaid geir fynycha, tra bod llawr gwlad yn glytwaith o filoedd o gaeau bach a cholddiau - yr hyn a elwir yn bocage yn Ffrainc.

Tra bod rhan fwya o Dde Cymru yn dal yn lled wledig ei naws tu faes i’r dinasoedd mawrion, mae un eithriad bwysig - y maes glo. Yn unigryw yng ngwledydd Prydain, maes glo mynyddig sy yn y De. Rhwng y glynoedd enwog â’u miloedd o bobl mae cyfeiriau lawer o ffermdir o Gryn Werth i Natur (GWN) - ffermdir sydd o’r herwydd â nifer o broblemau neilltuol.

Information galleries

The Elenydd

Yr Elenydd yw’r enw a roddir heddiw i asgwrn cefn mynyddig De Cymru ...

Read more: Yr Elenydd


Lowlands

Mae golwg llawr gwlad De Cymru yn gyfarwydd i bawb ...

Read more: Ardaloedd ‘llefydd bach’ gorllewin Cymru


Coalfield

Prif faes glo De Cymru yw’r unig faes glo mynyddig Prydain ...

Read more: Maes Glo De Cymru


High Nature Value farmland in South Wales

Diffinio ffermdir o Gryn Werth i Natur yn Ne Cymru ...

Read more: Ambell ffigyr diddorol



 
Logo Printversion EFNCP
European Forum on Nature Conservation and Pastoralism
Online: http://www.efncp.org/hnv-showcases/south-wales/welsh/
Date: 2024/03/28
© 2024 EFNCP – All rights reserved.