Maes Glo De Cymru
Prif faes glo De Cymru yw’r unig faes glo mynyddig Prydain. Mae’n ymestyn tua 90 km o Gydweli yn y gorllewin i Bontypwl a Blaenafon yn y dwyrain, ac ar ei leta y mae tua 30 km o led. Rhwng y glynnoedd enwog, lle mae trwch y boblogaeth o 900,00 yn byw, mae cynteddau eang o fynydd agored rhwng 300 a 600 m o uchder. Gyda dechrau’r gweithio haearn ar raddfa fawr ym Merthyr Tudful yn 1759, daeth yr ardal yn un o brif darddleoedd y Chwyldro Diwydiannol. Tyfodd glo i fod yn brif ddiwydiant o dechrau’r 19fed ganrif ac oddi ar hynny denodd yr holl ardal, fu’n mor wledig a diarffordd, filoedd o fewnfudwyr o gefn gwlad Cymru a Lloegr wedi hynny. Erbyn dechrau’r ganrif ddiwetha ‘roedd dros cwarter miliwn o ddynion dan ddaear.
Y syndod yw i’r rhan fwyaf o’r ardal aros yn dir fferm drwy holl gyffro’r ddwy ganrif a hanner diwetha. Gyda dyodiad o 2000mm a phriddoedd llwm a gwlybion y Mesurau Glo, cadw da byw oedd prif fywoliaeth y ffermydd mynydd erioed - da ac, yn enwedig yn yr hanner can mlynedd diwetha, defaid. I gymharu ag ardaloedd eraill, ychydig o ‘wella’ tir a chau tiroedd comin fu oddi ar y Chwyldro Diwydiannol - gwell oedd gan y tirfeddianwyr fuddsoddi mewn pyllau glo, rheilffyrdd a thai, gan sicrhau parhad ffermdir o Gryn Werth i Natur. Ar hyd a lled y maes glo gwelir mosaïc o fynydd agored a chaeau, llawer ohonynt â phorfa lled-naturiol. Bu peth gwella wrth gwrs, ac mewn rhai ardaloedd mae nifer y defaid braidd yn uchel, ond serch hynny diwedd ffermio yw’r perygl mwya erbyn heddiw. Mae datgysylltu cymorthdaliadau ac amaethu wedi datguddio cyn lleied yw’r elw (os elw) a gynnigir gan ffermio, ac o amgylch trefi’r maes glo mae rhibyn o drafferthion eraill yn wynebu’r ffermwr.
Mae difodiant y diwydiant glo yn y 30 mlynedd diwetha (caeodd y pwll diwetha yn 2008) wedi esgor ar gynni economaidd a chymdeithasol dybryd. Mae problemau o amgylch y trefi a’r pwysau i ryddhau tir ar gyfer datblygiant yn fwy o lawr nag yn y gweddill o Gymru wledig. Yn wir mae hyd yn oed meddwl am y maes glo fel ardal wledig yn rhywbeth braidd yn ddieithr.
More Information: